London House

Details
Wedi’i lleoli yng nghanol Cerrigydrudion, mae’r fflat dwy ystafell wely hon ar ei newydd wedd yn cynnig llety golau ac eang drwyddi draw. Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf cyfan, mae’r fflat hon yn cynnwys ystafell dderbyn fawr, cegin ar wahân, dwy ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi gyda chyfleusterau bath a chawod.
Mae holl amwynderau lleol Cerrigydrudion ar garreg y drws.
Betws-y-Coed – 20 munud (mewn car)
Llanrwst – 25 munud (mewn car)
Corwen – 15 munud (mewn car)
Dim ffioedd ymgeisio.
Mae croeso i hawlwyr budd-daliadau wneud cais ar gyfer yr eiddo. Byddwn angen rhent y mis cyntaf o flaen llaw a’r hyn sy’n cyfateb i rent mis fel blaendal ar gyfer yr eiddo.