Gwasanaethau

Rydym wedi rhoi disgrifiad byr o’n gwasanaethau isod. Mae manylion llawn ar gael yn ein pecyn landlord a gan ein tîm felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.


Gosod yn Unig

Gosod yn Unig – ein dewis Holl Gynhwysol ar gyfer landlordiaid sy’n chwilio am denant newydd

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn unigol neu, os yr hoffech, gallwch ddewis dilyn hynny gydag un o’n gwasanaethau rheoli.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer eiddo gwag yn unig a byddwn yn darparu’r canlynol:

  • Prisiad eiddo cychwynnol AM DDIM
  • Archwiliadau Iechyd a Diogelwch AM DDIM i sicrhau fod eich eiddo yn cwrdd â’r safon ddiogelwch ac yn lleihau’r risg i chi fel landlord.
  • Arolwg rheoli asbestos i’w gynnal gan gontractwr sydd wedi cymhwyso’n llawn*
  • Hysbysebu eich eiddo ar ein gwefan a Rightmove
  • Cwmni ar gyfer gweld tai
  • Gwasanaeth geirda tenant o fewn yr asiantaeth a darparu adroddiadau i chi ar gyfer eich penderfyniad ynglŷn â pha denant yr hoffech ei ddewis
  • Rhestr eiddo ysgrifenedig AM DDIM gyda lluniau i gyd-fynd
  • Cytundeb Tenantiaeth wedi ei lunio a’i arwyddo
  • Casglu’r taliad rhent cyntaf a’r blaendal

Y tâl am y gwasanaeth hwn yw £360 gan gynnwys TAW (£300 heb DAW)

*Os mai dim ond y gwasanaeth gosod tai yn unig yr hoffech ac nad ydych am i ni reoli eich eiddo i chi wedi i ni arwyddo’r tenant yna gallwn dynnu’r arolwg rheoli asbestos a gostwng y pris i £300 gan gynnwys TAW (£250 heb DAW).

Rheoli’n Llawn

Rheoli’n Llawn –  i sicrhau tawelwch meddwl i chi

Mae ein gwasanaeth gaiff ei reoli’n llawn yn cynnig tawelwch meddwl i chi fel landlord – rydym yn gofalu am yr holl gyswllt dydd i ddydd gyda’ch tenant, casglu’r rhent, cynnal archwiliadau eiddo rheolaidd a byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi wneud unrhyw beth. Fel rhan o’r gwasanaeth hwn byddwn yn:

  • Cynnal archwiliadau bob 3 mis ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wedyn
  • Cynnig mynediad i’n gwasanaeth atgyweirio tu allan i oriau i chi a’ch tenant
  • Casglu’r rhent yn unol ag amodau’r cytundeb tenantiaeth
  • Rheoli ymholiadau dydd i ddydd gan eich tenant
  • Cofrestru’r blaendal a gasglwyd wrth arwyddo
  • Trefnu mynediad i unrhyw atgyweiriadau sydd eu hangen neu ar gyfer cynnal a chadw rheolaidd
  • Eich atgoffa pan ddaw amser eich gwiriad diogelwch nwy blynyddol a threfnu mynediad i’w gynnal yn ôl eich cyfarwyddyd

Ein gwasanaeth a reolir yn llawn yw ein gwasanaeth mwyaf poblogaidd gyda’r rhan fwyaf o’n landlordiaid yn dewis caniatáu i ni reoli eu heiddo.

Y tâl am y gwasanaeth hwn yw 14.4% o’r rhent gaiff ei gasglu gan gynnwys TAW (12% heb DAW). Caiff hwn ei godi ar sail misol i glymu gyda’r taliadau rhent i chi.

Byddwn yn tynnu ein ffi o’ch taliadau rhent cyn i ni ei anfon draw i chi fel nad oes rhaid i chi boeni am daliadau i ni. Hefyd byddwn yn codi’r ffi ar y rhent gaiff ei gasglu fel na fyddwch yn talu am ein gwasanaethau ar yr achlysuron prin pan nad yw eich tenant yn talu eu rhent yn llawn ar gyfer y mis.

Casglu Rhent

Casglu Rhent – ein dewis ‘Arian yn Bwysig’

Os ydych yn dymuno ymwneud a’ch tenant a’r eiddo o hyd i ryw raddau yna gallwch ddewis ein gwasanaeth casglu rhent. Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu y byddwn yn rheoli’r cyfrif rhent i chi ac yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau’n ymwneud a’r rhent sy’n daladwy gan y tenant a chi.

Byddwch yn parhau i ymdrin ag unrhyw ymholiadau dyddiol gan eich tenant ac unrhyw ymholiadau am atgyweiriadau. Felly os ydych am barhau i ymwneud â rheoli’r denantiaeth yna efallai mai dyma’r gwasanaeth gorau i chi.

Byddwn yn anfon y rhent a gasglwyd bob mis i chi yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc a byddwn yn tynnu ein ffi cyn i ni ei anfon draw i chi.

Y tâl am y gwasanaeth hwn yw 12% o’r rhent gaiff ei gasglu gan gynnwys TAW (10% heb DAW).

Eiddo Tenantiaid

Eiddo Gwasanaeth Tenantiaid – I Landlordiaid sydd am gymryd cam yn ôl

Yn wahanol i asiantiaid eraill, dydyn ni ddim yn mynnu fod eich eiddo’n wag cyn i ni ddod yn gyfrifol amdano. Rydym yn hapus i ddod yn gyfrifol am eiddo gyda thenantiaid os y penderfynwch eich bod am leihau eich ymwneud â’ch tenantiaid.

Byddwn yn cwrdd â chi’n gyntaf i benderfynu gwasanaeth ar ba lefel sydd ei angen arnoch a byddwn yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth y byddwn ei angen gennych er mwyn dod yn gyfrifol am reoli’r denantiaeth. Hefyd byddwn yn cwrdd â’ch tenantiaid i egluro’r broses a chytuno ar ddyddiad gyda chi ar gyfer trosglwyddo.

Er mwyn i ni sefydlu’r gwasanaeth rheoli tenantiaeth hwn rydym yn codi taliad un tro o £360 gan gynnwys TAW. Wedi’r dyddiad trosglwyddo a gytunir byddwn yn codi 14.4% (sy’n gynnwys TAW) o’r rhent gaiff ei gasglu bob mis ar gyfer ein gwasanaeth a reolir yn llawn.

Gwasanaeth ar Brydles

Gwasanaeth ar Brydles – ein dewis ‘di drafferth’ i Landlordiaid

Ni yw’r unig asiant yn Sir Conwy all gynnig y ‘gwasanaeth ar brydles’ o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i landlordiaid lleol. Mae’r gwasanaeth hwn yn berffaith i landlordiaid sydd am gymryd cam yn ôl o reoli eiddo.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sicrwydd o rent i chi am hyd at 3 blynedd os yw eich eiddo yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn caniatáu defnydd llawn o’ch eiddo iddynt a byddwch yn parhau’n gyfrifol am atgyweiriadau landlord yn ystod y cyfnod hwn. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyfrifol am unrhyw atgyweiriadau tenant neu ddifrod a achosir i’r eiddo gan denantiaid.

I ganfod a yw eich eiddo yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn ac am wybodaeth bellach ynglŷn â’r cyfanswm rhentu fyddai’n cael ei gynnig i chi, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.


Gwasanaeth Atgyweirio a Chynnal a Chadw

Gwasanaeth Atgyweirio a Chynnal a Chadw

Os y dymunwch gallwn gynnal atgyweiriadau i chi. Mae gennym dros 30 o grefftwyr wedi hyfforddi a’u hyswirio’n llawn gan gynnwys peirianwyr nwy, trydanwyr, seiri a phlastrwyr sy’n darparu gwasanaeth llawn o ran atgyweirio a chynnal a chadw eiddo. Gallwn gynnal unrhyw waith atgyweirio, mawr neu fach, felly cysylltwch â ni i drafod eich gofynion os gwelwch yn dda. Wedi eu rhestru isod mae detholiad o waith atgyweirio poblogaidd a syniad o’n prisiau:

Gwiriad Diogelwch Nwy = £70 gan gynnwys TAW

Gwiriad Diogelwch Trydanol = £121 gan gynnwys TAW

Addurno (paentio gan gynnwys deunyddiau) fesul ystafell = £155 gan gynnwys TAW

Addurno (tynnu papur wal) fesul ystafell = £155 gan gynnwys TAW

Clirio eitemau/eiddo fesul ystafell = £45 gan gynnwys TAW

Ffi galw am wasanaeth tu allan i oriau (gyda’n gweithwyr yn ‘ei wneud yn ddiogel’) = £50 gan gynnwys TAW

Offer cyfyngu ar blant wedi eu ffitio i’r ffenestri, pob un yn = £23 gan gynnwys TAW

[insert logo diogelwch nwy, logo NICEIC]

Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Rydym yn cynnig gwasanaeth atgyweiriadau brys 24 awr sy’n berthnasol i’r holl eiddo gaiff eu rheoli’n llawn. Os byddai unrhyw beth yn digwydd i’ch eiddo fyddai angen sylw ar unwaith, yna gallwch fod yn dawel eich meddwl y gall eich tenantiaid ein ffonio i roi gwybod i ni ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Ein canolfan gyswllt y tu allan i oriau sy’n ymdrin â’r galwadau y tu allan i oriau a chaiff yr holl alwadau eu hateb gan unigolyn. Bydd yr asiant ar ben arall y ffôn yn asesu’r sefyllfa ac yn sicrhau fod ein tîm y tu allan i oriau yn derbyn yr wybodaeth y maent ei angen er mwyn ymdrin â’r broblem yn effeithiol.

Mae gennym nifer o weithwyr ar alwad i ymdrin ag unrhyw sefyllfa – peirianwyr nwy, trydanwyr a seiri i ofalu am eich eiddo os oes angen. Hefyd mae gennym aelod o staff ar ddyletswydd sy’n sicrhau y cynhelir lles y tenantiaid pe byddai’r angen yn codi i ganfod llety arall iddynt am y noson.

Mae’r tîm yn brofiadol iawn o ran penderfynu pa waith atgyweirio sydd wir angen ei wneud ar frys cyn iddynt anfon rhywun i’r eiddo. Os ydyw’n waith atgyweirio gwirioneddol frys, bydd y peiriannydd tu allan i oriau perthnasol yn mynd i’r eiddo ac yn ei ‘wneud yn ddiogel’ tan y diwrnod gwaith nesaf pan ellir rhoi gwybod i chi fel landlord am y gwaith atgyweirio.

Yna gallwch benderfynu a ydych am i’ch contractwr eich hun ddatrys y broblem neu a fyddech yn hoffi i ni wneud hynny ar eich rhan. Byddwn un ai yn rhoi anfoneb i chi neu’n ei dynnu o’r rhent gaiff ei gasglu ar gyfer yr eiddo. Pa bynnag ffordd, rydym bob amser yn hapus i gynorthwyo eich contractwr chi neu ein contractwr ni o ran mynediad i’r eiddo a chydgysylltu gyda’ch tenant.

Mae’r tîm yn derbyn adroddiad dyddiol gan y tîm y tu allan i oriau. Os yw eich eiddo wedi cael galwad y tu allan i oriau yn ystod y nos neu dros y penwythnos byddant yn cysylltu â chi y diwrnod gwaith nesaf i roi’r diweddaraf i chi.