Amdanom Ni

Asiantaeth Gosod Tai HAWS

Yn darparu amrediad eang o ddatrysiadau rheoli eiddo i landlordiaid ar draws Gogledd Cymru

Rydym yn darparu amrediad o wasanaethau i landlordiaid ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig pecyn cychwyn tenantiaeth holl gynhwysol heb unrhyw ychwanegiadau cudd fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd gofyn i chi dalu am unrhyw wasanaethau ychwanegol cyn y bydd eich tenant yn symud i mewn. Rydym hefyd yn hapus i ymgymryd â rheoli eiddo gyda thenantiaid os teimlwch yr hoffech gymryd cam yn ôl o reoli eiddo eich hun.

Ewch i’n tudalen ‘Gwasanaethau’ i ganfod mwy am y gwahanol gynnyrch a gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Rydym yn fwy na hapus i deilwra ein gwasanaethau i gyd-fynd â’ch anghenion chi felly os teimlwch nad yw ein gwasanaethau safonol yr hyn yr hoffech yna cysylltwch â ni i weld sut y gallwn gyd-fynd â’ch anghenion.  Os hoffech ganfod mwy cysylltwch â’r tîm os gwelwch yn dda a byddant yn hapus i’ch helpu.

Hefyd mae gennym dîm cynnal a chadw sydd wedi cymhwyso ac wedi eu hyswirio’n llawn yn gweithio i ni sy’n gallu cyflawni unrhyw atgyweiriadau neu ddiweddariadau sydd eu hangen ar eiddo. Byddwn yn gosod pris yn y fan a’r lle i’ch gofynion penodol chi a bydd ein tîm o dros 30 yn gwneud y gwaith.

Rydym yn cynnig amrediad enfawr o wasanaethau cynnal a chadw gan gynnwys:

  • Trin nwy
  • Profion diogelwch trydanol
  • Gwasanaethau paentio ac addurno
  • Gwasanaethau clirio
  • Gwasanaeth atgyweirio mewn argyfwng y tu allan i oriau ar gyfer ein heiddo gaiff eu rheoli’n llawn
  • Gwasanaethau gwaith saer a phlastro

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i ganfod mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi.