Hoffai’r Cyngor brydlesu eiddo gan berchnogion am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn diwallu angen lleol o ran tai.

Fel rhan o Gynllun Prydlesu’r Sector Preifat Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy ac Asiantaeth Osod HAWS.

Am beth ydym ni’n chwilio?

Rydym am brydlesu eiddo heb eu dodrefnu am bum mlynedd i ddarparu cartrefi ar gyfer preswylwyr Conwy a Sir Ddinbych.

Mae angen amrywiaeth o wahanol fathau a meintiau o eiddo arnom ar draws y prif ardaloedd poblogaeth yn y ddwy Sir.

Adnewyddu/gwella eiddo

Os oes angen adnewyddu eich eiddo er mwyn cyrraedd safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydlesu, mae cymorth ariannol ar gael.

Mae grant o hyd at £2,000, a benthyciad di-log o hyd at £8,000 (ad-daladwy dros 48 mis) ar gael, pe bai angen i chi wneud gwelliannau a nodwyd.

Byddwn ni’n cynnal arolwg eiddo a’i drafod gyda chi er mwyn nodi’r angen am welliannau.

Gallwch drefnu eich dyfynbrisiau eich hunain ar gyfer y gwaith gyda chontractwyr lleol. Neu gallwn ddarparu dyfynbrisiau o dîm mewnol Cartrefi Conwy o gontractwyr cymwys.

Os byddwch chi’n prydlesu eich eiddo i ni, bydd angen i chi ddarparu:

  • Tystysgrifau diogelwch Nwy a Thrydanol
  • Cadarnhad bod gennych drefniadau caniatâd yswiriant a morgais ar waith sy’n caniatáu i chi gymryd rhan yn y cynllun

Beth y gallwch ei ddisgwyl:

  • Yn ystod y brydles pum mlynedd, ni fydd gofyn i chi wneud unrhyw waith trwsio na chynnal a chadw, na chynnal archwiliadau nwy a thrydan, oherwydd bydd Cartrefi Conwy yn cynnal rhain. Os bydd unrhyw ddifrod gan denantiaid, caiff hyn ei gywiro hefyd heb unrhyw gost nac anghyfleustra i chi.
  • Caiff rhent ei dalu i chi bob mis gan Gyngor Conwy, p’un a fydd rhywun yn byw yn yr eiddo neu beidio. Mae’r swm y byddwch chi’n ei gael wedi’i osod ar 90% o’r gyfradd Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol ar gyfer maint yr eiddo.
  • Bydd cefnogaeth ar gael i bob aelwyd dros y 5 mlynedd. Caiff hyn ei ddarparu gan staff Cartrefi Conwy.
  • Caiff yr eiddo ei ddychwelyd i chi ar ddiwedd y brydles pum mlynedd a bydd yn yr un cyflwr â phan ddechreuodd y brydles, ar wahân i draul a gwisgo.
  • Gellir dychwelyd yr eiddo i chi heb denant yn byw ynddo, neu gallwch ddewis cadw’r tenant sy’n byw yn eich eiddo.

 

Bydd Asiantaeth Osod HAWS, ar ran CBSC a CSDd, yn gofalu am reoli’r eiddo sy’n rhan o’r cynllun o ddydd i ddydd.

Bydd staff HAWS yn archwilio eiddo’n rheolaidd, a monitro gweithgarwch tenantiaid a delio ag unrhyw faterion yn brydlon, os byddant yn codi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Anna Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, anna.catrin.jones@conwy.gov.uk, 01492 576640 / 0300 124 0050.

Lynsey Blackford, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lynsey.blackford@conwy.gov.uk, 01492 576264 / 0300 124 0050

Simon Farrell Cyngor Sir Ddinbych, Simon.Farrell@denbighshire.gov.uk, 01824 712422

Jeff Evans, HAWS, Jeff.Evans@cartreficonwy.org, 01745 335690